Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Ionawr 2015 i'w hateb ar 27 Ionawr 2015

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau strategol ar gyfer chwaraeon yn 2015? OAQ(4)2069(FM)

 

2. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhagolygon ar gyfer economi Cymru?

OAQ(4)2073(FM)

 

3. Elin Jones (Ceredigion):Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael parthed yswiriant llifogydd i fusnesau? OAQ(4)2066(FM)W

 

4. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru yn sector twristiaeth Cymru? OAQ(4)2068(FM)

 

5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn ag adroddiad blynyddol diweddaraf Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru? OAQ(4)2077(FM)W

 

6. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i helpu pobl yng nghefn gwlad Cymru i brynu eu cartrefi eu hunain? OAQ(4)2076(FM)

 

7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gyngor mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ysgolion o ran dod o hyd i blant sy'n hunan-niweidio? OAQ(4)2062(FM)

 

8. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ddarpariaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg?OAQ(4)2080(FM)W

 

9. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi’r syniad o adeiladu mwy o dai cyngor? OAQ(4)2079(FM)

 

10. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau dull cyson ledled Cymru o ran dyrannu bathodynnau glas? OAQ(4)2064(FM)

 

11. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynllunio ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)2065(FM)

 

12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn bodloni gofynion Adran 165(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 o ran integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol? OAQ(4)2072(FM)

 

13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella'r ddarpariaeth gwasanaethau iechyd lleol yn Sir Benfro? OAQ(4)2063(FM)

 

14. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynnal efo Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ynghylch pryderon o ran cynllunio'r gweithlu iechyd yn y gogledd? OAQ(4)2078(FM)W

 

15. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)2067(FM)